Wednesday, October 11, 2006

Y Plynj

Dwi wedi bod yn meddwl ers tipyn y dylwn i fod yn cyfrannu i fywyd ar y blogospher, gwneud fy rhan ar gyfer y gymuned ag ati. "Ond be sgen i i'w ddweud fydda o ddiddordeb i bobl" ydy fy ymateb i bob tro. Ac felly mae'r blog yn cael ei adael ar y silff am wythnos arall. Wel gyfeillion nid oes rhaid aros mwyach. Dwi'n siwr eich bod chi'n ysu i glywed pa lyfr dwi'n ddarllen, pa ffilm dwi'n mynd i weld heno a faint dwi'n cysiro talu am dy. Dwi'n gobeithio y bydd Last King of Scotland, The Departed a Jesus Ma Hynny'n Lot yn ddigon i dagu'r chwilfrydedd 'na.
Edrych yn mlaen i weld The Departed ma rhaid i mi ddeud; dwi heb weld ffilm Scorcese dda ers Goodfellas, er fod na elfennau o Gangs of New York (hy perfformiad Daniel Day Lewis) yn arbennig o dda. Mae Last King of Scotland, stori ffuglen am ddoctor o'r Alban ddaeth yn confidant i Idi Amin yn arbennig o dda ac yn cael ei gwneud yn ffilm fydd yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng ngwyl ffilm Llundain fis nesaf. Forest Whittaker yn chwarae rhan Idi Amin; Oscar nomination here we come methinks.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home